Ymateb y Llywodraeth - Rheoliadau Deddf Plant 2004 (Cronfa Ddata Plant sy’n Colli Addysg) (Peilota) (Cymru) 2025
Pwynt Craffu Technegol 1: Nid yw Llywodraeth Cymru o’r farn bod angen cyfeiriad at adran 66(1)(b) o Ddeddf Plant 2004 gan fod adran 66(1)(b) yn ei gwneud yn glir bod y pŵer i wneud darpariaethau gwahanol ar gyfer ardaloedd gwahanol eisoes wedi ei gynnwys yn adran 29. Fodd bynnag, er mwyn cynorthwyo’r darllenydd, os caiff y Rheoliadau eu cymeradwyo, bydd y Llywodraeth yn diwygio’r rhaglith i gynnwys cyfeiriad at adran 66(1)(b) o Ddeddf Plant 2004 cyn gwneud y Rheoliadau.
Pwynt Craffu Technegol 2: Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn bod gwall teipograffyddol yn y prif nodyn drafft. Mae hefyd yn nodi y cyfeirir at y pwerau cywir yn rhaglith yr offeryn. Os caiff y Rheoliadau eu cymeradwyo, caiff y prif nodyn drafft ei dynnu o’r Rheoliadau, a bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn tynnu manylion ynghylch “[p]aragraff 34 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006” o’r rhaglith, ac yn rhoi’r manylion mewn troednodyn yn lle hynny, cyn gwneud y Rheoliadau.
Pwynt Craffu Technegol 3: Mae Llywodraeth Cymru o’r farn, yng nghyd-destun penodol rheoliad 4, ei bod yn glir yn y testun Cymraeg, fod i’r term “preswylio fel arfer” yr ystyr a roddir iddo gan Reoliadau’r Byrddau Iechyd Lleol (Swyddogaethau a Gyfarwyddir) (Cymru) 2009 ond yn y rheoliadau eraill mae iddo ei ystyr cyffredin. Bydd ystyriaeth briodol yn cael ei rhoi i’r defnydd o’r term mewn deddfwriaeth yn y dyfodol.
Pwynt Craffu ar Rinweddau 6: Mae Llywodraeth Cymru yn nodi y daethpwyd ag adran 29 o Ddeddf Plant 2004 i rym ar 10 Mawrth 2025 gan Orchymyn Deddf Plant 2004 (Cychwyn Rhif 10) (Cymru) 2025 (O.S. 2025/304 (Cy. 60)), a wnaed ar 7 Mawrth 2025, ac mae’r Memorandwm Esboniadol wedi cael ei dynnu’n ôl, ei ddiwygio a’i ailosod er mwyn adlewyrchu hyn.
|
CYWIRIADAU I’R TESTUN CYMRAEG CYN GWNEUD Y RHEOLIADAU |
CYWIRIADAU I’R TESTUN SAESNEG CYN GWNEUD Y RHEOLIADAU |
|
Rheoliadau Deddf Plant 2004 (Cronfa Ddata Plant sy’n Colli Addysg) (Peilota) (Cymru) 2025 |
The Children Act 2004 (Children Missing Education Database) (Pilot) (Wales) Regulations 2025 |
|
Yn y rhaglith i’r Rheoliadau- (i) ar ôl “29(1)(a)”, yn lle “a (5)” rhodder “, (5) a 66(1)(b)”, (ii) hepgorer “a pharagraff 34 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006” (bydd y cyfeiriad at baragraff 34 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 mewn troednodyn) |
Yn y rhaglith i’r Rheoliadau- (i) ar ôl “29(1)(a)”, yn lle “and (5)” rhodder “, (5) and 66(1)(b)”, (ii) hepgorer “and paragraph 34 of Schedule 11 to the Government of Wales Act 2006” (bydd y cyfeiriad at baragraff 34 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 mewn troednodyn)
|
|
Bydd mân faterion fel fformatio a gwallau teipograffyddol yn cael eu cywiro, a mân newidiadau yn cael eu gwneud i’r nodyn esboniadol a’r troednodiadau, cyn gwneud y Rheoliadau. |
|